Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Hydref 2015
Amser: 08.30 -
08.37
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru |
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 4 Tachwedd 2015 –
·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud)
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig ar gyfer y ddadl.
Dydd Mercher 14 Hydref 2015
NNDM5832
Mick Antoniw (Pontypridd) R
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ymfalchïo yn y berthynas dda sydd wedi'i sefydlu yng Nghymru rhwng cyflogwyr, undebau llafur a gweithwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat; a
2. Yn credu:
a) bod Bil Undebau Llafur Llywodraeth y DU yn ymosodiad diangen ar hawliau democrataidd pobl sy'n gweithio ac y bydd yn tanseilio'r cysylltiadau diwydiannol da ac adeiladol sydd wedi'u sefydlu yng Nghymru ers 1999;
b) bod peryg y bydd y Bil yn mynd yn groes i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a chonfensiynau 87, 98 a 151 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol; a
c) bod y Bil yn ymyrryd â meysydd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt ac na ddylid ei gymhwyso i Gymru heb gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Menter.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Iau 26 Tachwedd 2015 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 1 Rhagfyr 2015.
Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn cadarnhau bod y Pwyllgor yn fodlon â'r amserlen arfaethedig ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2016-17 a'r dyddiad cau arfaethedig o 2 Chwefror 2016 i gyflwyno adroddiad ar y gyllideb ddrafft hon.
Yn y cyfarfod ar 29 Medi 2015, cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyhoeddi'r amserlen pe byddai'r Pwyllgor Cyllid yn cytuno ar y dyddiad cau i gyflwyno adroddiad.
Unrhyw Fater Arall
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfod pwrpasol ychwanegol ddechrau mis Rhagfyr i drafod y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar Adroddiad Etifeddiaeth y pwyllgor.